Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
CELG(4)-05-11 : Papur 1
Papur tystiolaeth i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Y Gyllideb 2012-13: Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb
1. Yn Chwefror 2011, cyhoeddwyd Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb Cyllideb Drafft 2011-12 ar y cyd â Chyllideb Derfynol 2011-12. Gwnaeth Adrannau Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb o’u penderfyniadau eu hunain ynghylch dyraniadau cyllideb a arweiniodd at nifer o addasiadau. Gwnaed yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb hwn ar y penderfyniadau strategol a wnaeth y Cabinet ac arweiniodd at gynyddu’r cyllid i wasanaethau cymdeithasol a thai a phobl agored i niwed.
2. Ychydig iawn o newid a fu yn nyraniadau eleni o’u cymharu â chyllideb y llynedd, a oedd yn gyllideb tair blynedd, felly nid yw Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd y gwaith manwl a wnaed y llynedd. Ond yr ydym wedi gwneud asesiadau lle bu newid yn y gyllideb. Mae’n bwysig fod Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb eleni ac Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb Cyllideb 2011-12 yn cael eu hystyried gyda’i gilydd.
3. Lle mae cynlluniau gwario wedi newid o’r rhai a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y llynedd cafodd asesiad o effaith ar gydraddoldeb ei gwneud ac, yn arbennig, mae hyn yn cynnwys dyraniadau ychwanegol ar gyfer:
· Ein hymrwymiadau Pump am Ddyfodol Tecach;
· Parhau i gyflenwi ein cyfres o fuddion cyffredinol; a
· Sicrhau cynaliadwyedd ariannol yn y GIG
Asesu’r newidiadau ar gyfer Cyllideb 2012-13
4. Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ddangos eu bod yn gwneud penderfyniadau ariannol mewn dull teg, tryloyw ac atebol, gan ystyried anghenion a hawliau gwahanol aelodau o’u cymuned. Cyflawnir hyn drwy asesu’r effaith y gallai newidiadau i bolisïau ac arferion eu cael ar wahanol grwpiau a warchodir.
5. Er mwyn bod yn hyderus bod yr effaith ar gydraddoldeb wedi ei asesu ym meysydd y gyllideb, gwnaeth adrannau Llywodraeth Cymru sgriniad dechreuol i ystyried a allai hyn gael effaith ar gydraddoldeb fel rhan o broses Llunio Polisïau Cynhwysol Llywodraeth Cymru.
6. Yn ystod y cam sgrinio, cafodd swyddogion eu llywio i ystyried argaeledd ac ansawdd y dystiolaeth i seilio penderfyniadau arni. Roedd y penderfyniadau hyn yn ymwneud â lefel yr effaith wahaniaethol niweidiol debygol y gallai’r polisi ei gael ar unrhyw rai o’r llinynnau cydraddoldeb. Mesurwyd ansawdd y dystiolaeth a gasglwyd yn ogystal â’r effaith wahaniaethol debygol.
7. Yn dilyn y sgriniad dechreuol, roedd yn amlwg wedyn y byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael effaith sylweddol ar bobl gydag un neu fwy o’r nodweddion a warchodir. Yna roedd angen asesiad manwl i ddeall yn well beth fyddai effaith posibl y dyraniadau arfaethedig yn y gyllideb.
8. Byddai’r asesiadau manwl fel arfer yn cynnwys asesiad mewn mwy o fanylder o nodau ac amcanion y polisi neu arfer, sut maent yn ymwneud â chydraddoldeb ac a oes ffyrdd y gallent hyrwyddo cydraddoldeb yn well, yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r ymchwil a gasglwyd yn ystod y cam sgrinio. Dylai arwain at farn gytbwys am lefel yr effaith y gallai’r polisi neu’r arfer ei gael ar unrhyw un neu bob un o’r llinynnau cydraddoldeb.
9. Fe’i gwnaed yn eglur y byddai’n rhaid i’r adrannau hynny lle gallai asesiadau o effaith ar gydraddoldeb gael eu gwneud ymgysylltu gyda a rhoi ystyriaeth i farn rhanddeiliaid perthnasol lle bo hynny’n briodol a sicrhau eu bod wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn.
Llunio Polisi Cynhwysol
10. Fel y crybwyllwyd ym mharagraff 5, o fewn Llywodraeth Cymru ein dull ar gyfer asesu penderfyniadau cyllidebol am effeithiau ar gydraddoldeb yw drwy’r broses Llunio Polisi Cynhwysol.
11. Defnyddiodd Adrannau Llywodraeth Cymru’r canllawiau Llunio Polisi Cynhwysol i gynorthwyo i gyrchu at yr holl ddeunydd perthnasol wrth wneud eu hasesiadau ac wrth gynghori Gweinidogion am eu penderfyniadau.
http://wales.gov.uk/topics/equality/publications/ipmguide2/?lang=en
Jane Hutt AC
Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ